Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch


Rydych yma: Cyrsiau > Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch

Mae’r cwrs Diogelwch Safle a Mwy (Site Safety Plus) hwn i chi os ydych chi’n ystyried gweithio o fewn y diwydiant adeiladu a pheirianneg sifil, neu’n ystyried gwneud hynny.

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn tynnu sylw at beryglon posib wrth weithio ar safle ac yn darparu cyngor ymarferol ar gadw eich hun a’ch cydweithwyr yn ddiogel. Mae’n trafod eich cyfrifoldebau fel unigolyn ac fel cyflogwr, gan gynnwys beth y gallwch chi ei wneud os ydych chi’n credu bod iechyd a diogelwch unrhyw un yn cael ei beryglu.

Ar ddiwedd y cwrs, bydd gennych chi ddealltwriaeth o:

  • yr angen i atal damweiniau
  • cyfraith iechyd a diogelwch
  • sut mae eich rôl yn ffitio o ran rheoli a rheolaeth y safle
  • asesiadau risg a datganiadau dull
  • perfformio’n ddiogel a gofyn am gyngor
  • sut i roi gwybod am weithredoedd anniogel i atal damwain

Mae’r dystysgrif ar gyfer y cwrs hwn yn ddilys am 5 mlynedd. I barhau i fod wedi’ch ardystio yn y maes hwn, bydd angen i chi ail-gymryd y cwrs cyn y dyddiad dod i ben.