Rydych yma: Cyrsiau > Cynllun Hyfforddi Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS)
Mae’r cwrs hwn i chi os oes gennych chi gyfrifoldebau dros gynllunio, trefnu, monitro, rheoli a gweinyddu grwpiau o staff e.e. rheolwr safle, neu os ydych chi’n ystyried hynny.
Mae’n cynnwys yr holl ddeddfwriaeth berthnasol sy’n effeithio ar weithio’n ddiogel mewn diwydiannau adeiladu, adeiladwaith a pheirianneg sifil. Mae’n pwysleisio’r angen am asesiad risg yn y gweithle, gweithredu’r mesurau rheoli perthnasol a chyfathrebu digonol i gynnal diwylliant iechyd a diogelwch o fewn y gweithlu.
Mae’r dystysgrif ar gyfer y cwrs hwn yn ddilys am 5 mlynedd. I barhau i fod wedi’ch ardystio yn y maes hwn, bydd angen i chi ddilyn cwrs atgoffa cyn y dyddiad dod i ben ar eich tystysgrif, fel arall bydd angen ail-gymryd y cwrs cyfan.
© Hawlfraint 2023 - Grŵp Hyfforddiant Adeiladu Gogledd Orllewin Cymru - Gwefan gan Delwedd