Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Amgylcheddol ar y Safle


Rydych yma: Cyrsiau > Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Amgylcheddol ar y Safle

Mae’r cwrs undydd rhyngweithiol hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer goruchwylwyr/rheolwyr safle gyda’r nod o roi cyflwyniad i’r rheiny sy’n cymryd rhan o faterion amgylcheddol ar safleoedd adeiladu.

Trosolwg

Dyluniwyd y cwrs i roi’r wybodaeth amgylcheddol sylfaenol y mae gofyn i’r gadwyn is-gontractio ei phrofi i gontractwyr mawr, ac mae’n trafod yr agweddau amgylcheddol ar brawf sgrin gyffwrdd newydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Bydd y cwrs yn diweddaru gwybodaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd y rheiny sy’n cymryd rhan trwy roi trosolwg manwl o’r pwnc, y ddeddfwriaeth berthnasol ac arfer gorau’r diwydiant.

Bydd yn eu galluogi i nodi, rheoli a lleihau effeithiau amgylcheddol eu gwaith a lle bo’n bosib, nodi cyfleoedd i wella’n amgylcheddol.

Mae’r dystysgrif ar gyfer y cwrs hwn yn ddilys am 5 mlynedd. I barhau i fod wedi’ch ardystio yn y maes hwn, bydd angen i chi ail-gymryd y cwrs cyn y dyddiad dod i ben.