Cynllun Hyfforddi Goruchwylio Diogelwch Safle (SSSTS)


Rydych yma: Cyrsiau > Cynllun Hyfforddi Goruchwylio Diogelwch Safle (SSSTS)

Mae’r cwrs hwn i chi os oes gennych chi gyfrifoldebau goruchwylio, neu os ydych chi’n ystyried hynny.

Trosolwg

Ar ddiwedd y cwrs, bydd gennych chi ddealltwriaeth o:

  • gyfraith iechyd a diogelwch a sut mae’n berthnasol i oruchwylwyr
  • eich cyfrifoldebau goruchwylio o ran rheoli diogelwch ar y safle
  • asesiadau risg a’r angen am ddatganiadau dull
  • sesiynau cynefino â’r safle effeithiol, sgyrsiau am offer a briffiau datganiadau dull
  • monitro gweithgareddau’r safle yn effeithiol
  • ymyrryd yn amserol pan nodir arfer gwael

Mae’r dystysgrif ar gyfer y cwrs hwn yn ddilys am 5 mlynedd. I barhau i fod wedi’ch ardystio yn y maes hwn, bydd angen i chi ddilyn cwrs atgoffa cyn y dyddiad dod i ben ar eich tystysgrif, fel arall bydd angen ail-gymryd y cwrs cyfan.