Cynllun Hyfforddi Goruchwylio Diogelwch Safle – Sesiwn Atgoffa (SSSTS-R)


Rydych yma: Cyrsiau > Cynllun Hyfforddi Goruchwylio Diogelwch Safle – Sesiwn Atgoffa (SSSTS-R)

Mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi os ydych chi wedi pasio’r Cynllun Hyfforddi Goruchwylio Diogelwch Safle (SSSTS) yn flaenorol.

Trosolwg

Mae’r hyfforddiant atgoffa hwn yn diweddaru eich gwybodaeth iechyd a diogelwch, yn ogystal â rhoi trosolwg manwl i chi o’r newidiadau deddfwriaethol a’u heffeithiau yn y gweithle. Mae’n adeiladu ar y deunydd yn y cwrs gwreiddiol.

Ar ddiwedd y cwrs, byddwch chi’n gallu:

  • gweithredu’r holl ddeddfwriaeth iechyd, diogelwch, lles ac amgylcheddol wedi'i diweddaru sy’n effeithio ar eich rôl goruchwylio
  • gweithredu canllawiau newydd ac arfer gorau’r diwydiant y mae’r newidiadau yn effeithio arnynt
  • cyflawni eich cyfrifoldebau o ran iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd.