Codi a chario


Rydych yma: Cyrsiau > Codi a chario

Mae mwy na chwarter y damweiniau yr adroddir amdanynt bob blwyddyn yn digwydd oherwydd technegau codi a chario gwael, gan achosi absenoldebau, anafiadau ac anableddau. Mae hyfforddi gweithwyr yn effeithiol yn y technegau codi a chario cywir a defnyddio cymhorthion codi mecanyddol yn hynod gost-effeithiol. Mae ein cwrs codi a chario yn cynnwys:

  • Rheoliadau yn ymwneud â chodi a chario
  • Ystadegau ac anafiadau yn ymwneud â chodi a chario
  • Astudiaethau achos, mathau o anafiadau a sut maen nhw’n digwydd
  • Asesiadau risg
  • Technegau codi a argymhellir
  • Systemau gwaith priodol
  • Cymhorthion mecanyddol

Rydym ni’n anelu at deilwra’r cwrs hwn i’r tasgau penodol y byddai pob cleient yn debygol o’u hwynebu yn eu hamgylchedd gwaith. Mae’r cwrs yn seiliedig ar theori gyda gweithgareddau codi a chario rhyngweithiol ac arholiad byr i gadarnhau’r wybodaeth a drafodir.