Wedi’i ddylunio yn unol â’r canllawiau HSG17 ar ddiogelwch wrth ddefnyddio olwynion garw. Mae’r maes llafur yn cynnwys:
- Peryglon a risgiau sy’n codi o ddefnyddio olwynion garw a’r mesurau rhagofalus i’w dilyn
- Dulliau o farcio olwynion garw gyda’u math, eu maint a’u cyflymder gweithredu uchaf
- Storio, trin a chludo olwynion garw
- Sut i arolygu a phrofi olwynion garw am ddifrod
- Swyddogaethau pob rhan a ddefnyddir gydag olwynion garw, fel cantelau (flanges), blotwyr (blotters), bushes, nytiau ac ati
- Rhoi olwynion garw at ei gilydd yn gywir i sicrhau eu bod yn cydbwyso ac yn ffitio’n iawn
- Dull ar gyfer paratoi olwyn arw
- Ffordd gywir o addasu’r orffwysfa weithio ar beiriannau pedestal neu feinciau llyfnu (bench grinding)
- Defnydd addas o gyfarpar diogelu personol, er enghraifft, offer diogelu’r llygaid.
Cwrs theori yw hwn, gydag arddangosiad o ddefnyddio’r peiriannau ac arholiad.